#Cyfarwyddwr cynorthwyol

Gan Steffan Gwynn

Ar ddechrau pob cynhyrchiad, down at ein gilydd fel cwmni i gynnal cyfarfod croeso. Â ninnau ar fin dechrau ymarferion ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ yr wythnos nesaf, mae’n bryd i mi gyflwyno’n hun felly mewn rhyw lun ar gyfarfod croeso ddigidol – fy enw i yw Steffan Gwynn, ac yn ystod yr wythnosau nesaf, bydda’ i’n gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i Arwel Gruffydd ar addasiad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘stori garu fwyaf’ Henrik Ibsen.

O ddydd i ddydd, bydda’ i yno yn yr ystafell ymarfer, yn arsylwi, dysgu, ac yn cynnig barn o dro i dro. Dwi’n edrych ymlaen at gynorthwyo lle bo’r angen, ac i barhau’r â’r gwaith ymchwil dwi bod yn gwneud ers cyn y flwyddyn newydd. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda corau ledled Cymru, wrth i ni ddod â pheth o gerddoriaeth Norwy i’r llwyfan, ynghŷd â’r ddrama ei hunan.

Ond un o’r pethau yr ydw i’n edrych ymlaen ato fwyaf dros yr wythnosau nesaf yw i fynd i’r afael â’r script, a dod i’w deall hi yn ei chyfanrwydd. Ynghŷd â bod yn stori garu ddirgel, mae yna arsylwadau yma ar wyddoniaeth, ar gelfyddyd, ac ar drefn cymdeithas. Yn fwyaf diddorol efallai, cawn ddarganfod sut y mae tirlun yn medru dylanwadu arnom fel pobl.

Mae hynny a llawer mwy yn bod o fewn geiriau’r ddrama, a bydd y cyfle i archwilio’r pethau rheiny – ynghŷd â gweithio efo cast a chriw mor dalentog – yn siwr o’i gwneud hi’n brofiad diddorol a chofiadwy.

Gadael sylw