Heddiw yw ddoe, ein yfory ni

A hithau’n Ddolig, a blwyddyn newydd o’n blaenau, mae hi’n naturiol i ni daflu golwg yn ôl ar y flwyddyn a fu, law yn llaw ag edrych ymlaen tuag at brosiectau newydd ac amrywiol 2015.

Dechreuodd 2014 i ni efo’r ferch a wnaed o flodau, Blodeuwedd – dechrau da i unrhyw wanwyn! Wedi’i symud o Domen y Mur i brif lwyfannau theatrau Cymru, cynigodd drama Saunders Lewis ddechreubwynt addas ar gyfer ein rhaglen yn 2014. Roedd hi’n rhaglen a oedd yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, y cyfarwydd a’r anghyfarwydd, wrth i dri actor newydd ymuno gyda rhai o aelodau’r cast gwreiddiol mewn sioe a gynigodd wedd gyfoes – neu ogwydd o gyfnod yr Ail Ryfel Byd hyd yn oed – ar glasur Saunders Lewis. Roedd hi wir yn fraint i mi fel cyfarwyddwr gael cydio ddwywaith yn y ddrama hon sydd wedi fy swyno er dyddiau ysgol, a hynny mewn mater o ychydig fisoedd. Ond braint mwy fyth oedd cael cydweithio gyda dwy actores o’r radd flaenaf, ond tra gwahanol, yn Rhian Blythe a Morfudd Clark, wrth roi cnawd ar y ferch o flodau.

O’r fan honno, euthum ymlaen at ddrama newydd – Y Negesydd – a roddodd lwyfan i gyfarwyddwraig ac awdur cymharol newydd i fyd y theatr, sef Ffion Dafis a Caryl Lewis. Roedd hi’n brofiad braf i mi fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni cenedlaethol i gael cydweithio gyda Theatr Felinfach ar y prosiect hwn, â ninnau fel cwmni yn ail-leoli ein swyddfa i Ddyffryn Aeron ar gyfer y cyfnod ymarfer. Roedd hi’n braf hefyd gweld cynifer yn dod i weld y sioe yno, ac yn ôl yr ymateb, yn ei mwynhau hefyd, gyda’r ciw yn estyn allan o ddrysau’r theatr i’r maes parcio ar gyfer noson agoriadol y ddrama. Pleser oedd hi i ymwneud cymaint yno gyda’r gymuned leol hefyd – boed mewn noswaith ddawns o’r pumdegau yn Dihewyd, neu mewn noson sgwennu newydd yn Nhafarn y Vale.

Roedd rhyw fwrlwm dramatig arbennig ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni, gyda chreu ‘Pentref Drama’, a gyda  channoedd yn tyrru at Gaffi’r Theatrau (cartref y coffi gorau ar y Maes – yn ôl rhai!) ac at ein gofod theatr newydd sbon, sef y Cwt Drama. Mi gefais i fwynhad mawr o weld cynifer o ddigwyddiadau gwahanol yn y Cwt – o arddangosfa amaethyddol ‘Cof Tir Sir Gâr’ Marc Rees i’r cynhyrchiad o waith buddugol Medal Drama 2013, Dŵr Mawr Dyfn, sef ffrwyth cydweithrediad rhyngom ni, yr Eisteddfod Genedlaethol â Sherman Cymru, ac wedi ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cyswllt y Theatr Genedlaethol, Sara Lloyd. Mae’n ofod cyffrous, aml-bwrpas, a chyffyrddus, ac yn ofod sy’n caniatáu ac yn annog cydweithio ac arloesi ym myd y theatr. Edrychaf ymlaen at ei weld mewn nifer o Eisteddfodau’r dyfodol.

Ond tra’n trafod yr Eisteddfod, ni ddylid anghofio chwaith inni ail ymweld â’n cynhyrchiad o Dyled Eileen, o waith gwreiddiol gan Angharad Tomos, gyda Gwenllian Higginson yn ymuno â’r cast gwreiddiol fel yr Eileen Ifanc, a’r gwaith unwaith eto wedi ei gyfarwyddo gan Elen Bowman. Cafwyd wythnos o berfformiadau arbennig gan y cast, ac roedd y ffaith i’r ddrama gael ei pherfformio yn yr un ardal lle bu’r Beasley’s yn byw ac yn brwydro dros yr iaith Gymraeg yn sicr yn cynnig cyfle arbennig a diddorol i ni allu ystyried neges y sioe. Eto, rwy’n falch eithriadol i’r cynhyrchiad gael croeso twymgalon gan y gynulleidfa, ac i ninnau hefyd gael croeso gan Goleg Sir Gâr, lle perfformiwyd y sioe.

Ymlaen yn syth wedyn at Chwalfa, addasiad Gareth Miles o glasur T. Rowland Hughes. Er na lwyfannwyd y ddrama eleni, cawsom gyfnod gwych yn ei hymarfer i fyny ym Methesda ac ym Mangor. Roedd hi’n brofiad arbennig i fedru gweithio gydag aelodau o’r gymuned leol yno, a oedd mor ymroddedig, parod, a thalentog. Roedd hi’n bleser hefyd i gael gweithio gyda chast proffesiynol mor arbennig. Roedd hi’n siom aruthrol i ni i gyd a fu’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad i’r gwaith fethu a gweld golau dydd y tro hwn, ond fe greom ni rywbeth arbennig iawn ym Mangor a Dyffryn Ogwen dros yr Haf. Fe gynlluniwyd y sioe i wneud y mwyaf hefyd o adnoddau newydd Theatr Bryn Terfel yng Nghanolfan Pontio, a dwi’n edrych ymlaen at weld cynulleidfa rhyw ddydd yn rhannu yr un wefr gobeithio ac y bu ni ei phrofi wrth fynd i’r afael â’r nofel hynod hon, ac â’r digwyddiad hanesyddol eithriadol sy’n sail iddi, ac sydd mor eithriadol bwysig i hanes ac ysbryd yr ardal honno, ac yn wir, Cymru gyfan.

O Fangor wedyn i ddinas hyfryd Bautzen yn Yr Almaen. Yn y fan honno y cyflwynwyd ein hadnodd cyfieithu newydd – ‘Sibrwd’ – i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Cafodd cynulleidfa ryngwladol yno o wledydd ar draws Ewrop gyfle i brofi ein ap ffôn symudol newydd ar waith, sy’n cynnig mynediad i’r di-Gymraeg i’n cynyrchiadau. Mae’n destun balchder personol i mi fod mynychwyr gŵyl fechan yno ar gyfer theatr mewn ieithoedd lleiafrifol wedi cael profi ein cynhyrchiad o waith Aled Jones Williams, sef Pridd, a hynny yn y Gymraeg, y Saesneg, yr Almaeneg, a’r Sorbeg. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr ap hwn yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru pan fydd ein sioe nesaf, Y Fenyw Ddaeth o’r Môr, yn teithio’n genedlaethol ym mis Chwefror a mis Mawrth, 2015. Ewch draw i’r App Store rŵan i’w lawr-lwytho (yn rhad ac am ddim!) – mae yno’n barod yn eich disgwyl.

Dywedais i ddechrau bod ein rhaglen ni eleni wedi bod yn llawn o’r cyfarwydd ac anghyfarwydd, â’r ddeubeth yn dod ynghyd ambell dro. Addas felly i ni orffen ein blwyddyn â thro i fyd theatr plant am y tro cyntaf erioed, a hynny ar y cyd gyda Sherman Cymru. Rwy’n falch iawn ein bod fel cwmni yn medru cynnig antur ‘Yr Hwyaden Fach Hyll’ i gynulleidfaoedd ifainc Cymru ben baladr, a chyfle i’w mwynhau ymhell wedi i gynyrchiadau eraill y Nadolig fynd i glwydo, a hithau’n parhau i deithio trwy gydol mis Ionawr.  Sara Lloyd, unwaith eto yw’r cyfarwyddwr, ac mae’r sioe hudolus hon yn addasiad o waith gwreiddiol Hans Christian Andersen gan Kath Chandler, wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood. Mynnwch eich tocyn, dwi ar ddeall eu bod yn gwerthu’n gyflym.

Ac ymlaen felly at 2015. Rydym newydd gyhoeddi ein rhaglen o waith o fis Chwefror hyd fis Awst 2015. Cynhyrchiad mis Chwefror/Mawrth fydd ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ gan Henrik Ibsen, wedi’i throsi i’r Gymraeg gan Menna Elfyn. A siarad yn bersonol, rwyf wedi bod eisiau llwyfannu’r clasur rhamantus hwn ers tro byd, a dwi mor falch ein bod ni wedi gallu sicrhau cast mor gryf ar ei gyfer, a throsiad mor fendigedig. Fe wnaeth Heledd Gwynn actio mewn drama fer y bu inni ei llwyfannu yn 2013 yn y Sherman. Roedd hi’n eithriadol bryd hynny, a dwi’n teimlo mor gyffrous ynghylch gweithio efo hi wrth iddi fynd i’r afael â’r prif ran hynod yma yn ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’. Bydd yn dro cyntaf imi gyfarwyddo pob un o’r actorion hyn mewn cynhyrchiad llawn, a dwi methu aros i gydweithio efo nhw i ddod â’r clasur hwn yn fyw am y tro cyntaf yn y Gymraeg. A dwi’n edrych ymlaen hefyd i weithio efo corau eto ledled Cymru. Roedd cael gwneud hynny efo’r cynhyrchiad ‘Llwyth’ dro’n ôl yn brofiad mor arbennig.

Dwi’n falch eithriadol fod cymaint o le i dalent newydd ddatblygu yn ein tymor nesaf o waith. Mae Aled Pedrick wedi gweithio efo’r cwmni sawl tro fel actor, ac fe gafodd lwyddiant diweddar yn Llundain yn cyfarwyddo ‘Saer Doliau’ gan Gwenlyn Parry. Mae wrthi ar hyn o bryd yn cyfarwyddo cynhyrchiad newydd o’r ‘Tŵr’. Gyda stori sydd mor agos at ei galon, a’i deulu wedi dioddef yn uniongyrchol yn ystod cyfnod Streic y Glowyr 1984-85, rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut fydd drama newydd Sian Summers ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ yn datblygu o dan ei gyfarwyddyd.

Mae hi’n 30 mlynedd ers diwedd streic y glowyr yn 2015, ond mae hi’n flwyddyn fawr i Batagonia, a ninnau’n dathlu can mlwyddiant a hanner ers sefydlu’r Wladfa. I nodi’r achlysur hynod hwn, byddwn yn cydweithio gyda National Theatr Wales i greu cynhyrchiad aml-blatfform uchelgeisiol yn Aberdâr. Mae’n addas ein bod yn mynd i’r ardal honno wrth bod cynifer o deithwyr y Mimosa groesodd i’r Ariannin yn 1865 wedi hanu o’r ardal honno. Rydym yn falch iawn o groesawu Marc Rees i greu cynhyrchiad efo ni eto a ninnau wedi cydweithio mor llwyddiannus gyda Tir Sir Gâr yn 2013. Bydd ‘150’ yn plethu gwaith artistiaid proffesiynol o bob rhyw ynghyd â gwaith gan artistiaid lleol o bob oed, a hynny mewn lleoliad eithriadol, sef storfa anferthol y Tŷ Opera Brenhinol yn Abercwmboi.

Ac rydym yn dychwelyd i roi llwyfan i dalent newydd eto yn yr haf, wrth bod Sarah Bickerton yn cydio yn yr awenau gyda chynhyrchiad i ddathlu cyfraniad Telynores Maldwyn, Nansi Richards. Mae Sarah wedi bod yn gwneud enw iddi hi ei hun fel cyfarwyddwr yn y blynyddoedd diwethaf. Yn raddedig o Aberystwyth, ond oddi ar hynny wedi ei hyfforddi fel cyfarwyddwr, ac wedi cynorthwyo ar sawl prosiect, dyma’r tro cyntaf iddi fynd i’r afael â chynhyrchiad mor uchelgeisiol. Unwaith eto, mae’r cysylltiad rhwng y cyfarwyddwr â’r ddrama yn un agos, wrth bod Sarah yn perthyn gwaed i Nansi. Mae Angharad Price wedi bod wrthi’n ddyfal yn drafftio’r sgript, ac rydym yn croesawu talent newydd arall i ymgymryd â rôl Nansi, sef Melangell Dolma o Lanfrothen.

Gyda rhychwant mor eang i’r rhaglen, lle amlwg i’r hen a’r newydd, i hen lawiau a chrefftwyr ifanc, dwi’n hyderus y cawn ni dymor o waith go arbennig, gyda rhywbeth, dwi’n siŵr, i blesio pawb. Yn sicr, bydd 2015 yn flwyddyn brysur a chyffrous i ni fel staff y cwmni. Rwy’n mawr obeithio y cawn ni cystal hwyl ar y creu ag a gawsom yn 2014, ac y bydd y gwaith yn cael cystal croeso gan y cyhoedd ag a gafodd ein gwaith eleni.

Nadolig Llawen, a Blwyddyn Newydd Ddramatig!

Advertisements

Taith i Bautzen

Gan Carys Ifan

Ar ddiwedd mis Hydref gwnaeth pedwar ohonom hedfan i’r Almaen i gymryd rhan yng Nghŵyl Theatr Lleiafrifol mewn tref o’r enw Bautzen.  Mae Bauzten dwy awr o Ferlin a dwy awr o Brâg ac maent yn siarad iaith leiafrifol yno sef Sorbeg. Rhyw 30,000 sydd yn siarad yr iaith â’r cwmni theatr a fu’n lletya’r ŵyl yn creu gwaith mewn Sorbeg ac Almaeneg. Roeddem wedi penderfynu taw detholiad o’r cynhyrchiad ‘Pridd’ gan Aled Jones Williams fyddai orau i arddangos y math o waith rydym yn Theatr Gen yn ei gynhyrchu.  Felly gwaeth Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Owen Arwyn sy’n actio rhan Handi Al, Gareth Brierley fel technegydd a minnau, hedfan yn hwyr un noson o Gaerdydd i Ferlin.

Rhywbeth sydd yn aros yn fy nghof o’r trip i Bautzen yw rhywbeth ddywedodd Arwel wrth drafod gyda aelodau eraill yr ŵyl – dyw profiad un lleiafrif byth yr un peth a phrofiad lleiafrif arall. Er bod yna bethau sy’n debyg, yn y bôn mae profiad pawb yn wahanol.  A dyna oedd yn wir am ein profiad ni fel Cymry i gymharu â phrofiad eraill yn yr ŵyl. Er bod pawb yn adnabod rhyw lefel o deimlad ynysig, nid oedd tranc yr iaith yn poeni’r cwmni o Tirol, sydd yn siarad Almaeneg ac Eidaleg tafodieithol. Ac roedd profiad y cwmni theatr sy’n cynhyrchu gwaith Almaeneg yn Hwngari yn wahanol eto, onid oeddynt yn leiafrif yn seiliedig ar ble roeddynt yn byw?  Nid oedd unrhywun arall oedd yn bresennol wedi gorfod mynnu hawliau a chydnabyddiaeth i’w mamiaith trwy brotest. Ni chlywais unrhyw siaradwr Sorbeg yn trafod dyfodol yr iaith honno.  Roedd y nifer helaethaf o gwmniau eraill oedd yn bresennol yn defnyddio Almaeneg fel iaith gyntaf neu ail-iaith – unwaith eto roeddem ni’r Cymry yn leiafrif!

Fy mhrif ddyletswydd i tra yn yr Almaen oedd goruchwylio treialu ein ‘ap’ mynediad, sydd mewn datblygiad, sef Sibrwd.  Bwriad Sibrwd yw cynnig mynediad i berfformiad beth bynnag yw’r iaith.  Golygodd hyn ein bod wedi paratoi troslais yn y Saesneg, Almaeneg a Sorbeg i fynd gyda’r detholiad o Pridd.  (Gweler blog gan Geraint Desmond ynglyn â pharatoi’r troslais).  Dyma oedd y tro cyntaf i ni redeg y system gyda tair iaith a’r tro cynta i ni dreialu’r platfform dramor.  Gwnaethom brofi’r system gyda Almaenwyr yng Nghymru, ac felly roeddwn yn hyderus yn y cyfieithiad a bod Sibrwd yn fodd o gynnig mynediad i’r perfformiad.

Roedd popeth yn barod gennym ar gyfer y noson, 10x ipod i bobl fenthyg, clustffonau sbar i bobl ddenfyddio gyda’i ffôn personol. Yr un oedd y problemau a rhwystrau a gynnigiwyd i ni gan dîm technegol y theatr yn Bautzen â’r hyn rydym yn derbyn adre – does dim ffôn smart gyda pawb, does dim modd dibynnu ar y wifi yn y theatr.

RHYBUDD – darn technegol! Mae Sibrwd ei hun yn rhedeg ar system caëedig sydd ddim angen cysylltiad â’r we, mae’n rhedeg drwy system di-wifr ei hun.  Nid yw Sibrwd felly yn ddibynol ar we di-wifr y theatr, ond er mwyn lawrlwytho’r ap mae angen cysylltiad gyda’r we, ac os nad oedd y defnyddiwr wedi gwneud hyn yn barod, roedd yn ddibynol ar system y theatr.

Felly roedd yna rwystr i ddefnyddwyr gan bod wi-fi y theatr mor araf.  Dyma oedd y tro cyntaf i ni dreialu’r system ar ffonau personol, ers i’r ap fod ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store neu Google Play, yn hytrach na bod y grwp ffocws yn defnyddio ipod parod. Roedd gan fwy o aelodau’r gynulleidfa ffôn smart nac oeddwn wedi rhagdybio ac felly bum yn eu cynorthwyo i lawrlwytho’r ap i’w ffônau personol. Daeth yn amlwg taw ychydig mae rhai pobl yn deall ar eu ffôn personol, a heb iaith lafar yn gyffredin mae’n anodd siarad rhywun drwy’r camau angenrheidiol.

Yn ystod y perfformiad gwych gan Owen Arwyn bum yn gwylio’r gynulleidfa oedd yn gwneud defnydd o Sibrwd.  Roedd pobl iau, sydd yn fwy au fait gyda technoleg, yn eistedd yn gyffroddus yn gwylio a gwrando. Bu’r adborth oddi wrthynt yn hynod gadarnhaol.  Gwnaeth nifer o rai hŷn chwarae gyda’r teclyn, methu darganfod eu ffordd yn ôl ac arddangos diffyg hyder yn y dechnoleg.  Cawsom adborth wrth eraill eu bod eisiau canolbwyntio ar wrando ar y Gymraeg ac felly wedi tynnu’r clustffonau yn ystod y perfformiad.

Bu treialu’r ap yn Bautzen yn ddefnyddiol tu hwnt, nid yn unig er mwyn ysytyried anghenion marchnad rhyngwladol ar gyfer y platfform, ond hefyd o ran y camau mae’n rhaid i’r defnyddiwr cyflawni, a beth yw’r ffordd gorau i ni addysgu a chynorthwyo cynulleidfa.

Felly, os ydych chi, ffrind neu aelod o’r teulu eisiau defnyddio Sibrwd yn ystod taith Y Fenyw Ddaeth o’r Môr y cyngor yw – ewch ati i lawrlwytho’r ap cyn cyrraedd y theatr, a bydd yna griw o gynorthwy-wyr Sibrwd mewn crysau-t gwyrdd blaen tŷ i’ch cynorthwyo bob cam.  Roedd y dystiolaeth bod Sibrwd yn cynnig mynediad beth bynnag fo’r iaith i mi yn glir wrth wylio ymateb defnyddwyr yng Nghymru.  Gwelais wyneb Almaenes a Sais yn troi yn wên wrth i Handi Al rhannu jôc â’r gynulleidfa yn y Gymraeg.

Carys Ifan