Rydyn ni’n falch iawn i gefnogi y cynllun i ddatblygu syniadau creadigol, WalesLab sy’n cael ei redeg gan National Theatre Wales. Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn rhoi mewnbwn i’r syniadau iaith Gymraeg ers cychwyn y cynllun, ac wrth i’r cydweithio ddyfnhau y gobaith yw gweld twf yn y prosiectau iaith Gymraeg sydd yn cael eu cynnnig i’r cynllun.
Mae’r fenter unigryw hon yn gyfle i artistiaid sydd eisiau datblygu syniadau theatr newydd, gan ddod â rheiny sydd â syniadau creadigol at ei gilydd boed yn ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, actorion, coreograffwyr, dylunwyr neu’n gynhyrchwyr amlgyfwng. Mae WalesLab yn gwahodd ceisiadau ar gyfer prosiectau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig cefnogaeth ar gyfer y prosiectau sy’n ymgeisio trwy’r iaith Gymraeg.
Meddai Simon Coates, Cydymaith Creadigol National Theatre Wales;
“Mae National Theatre Wales wrth eu bodd i allu weithio’n agosach gyda Theatr Genedlaethol Cymru – cwmni sydd yn cael eu adnabod am arbrofi gyda phrosiectau newydd yn yr iaith Gymraeg – ar raglen WalesLab. Mae’r cydweithio yma yn cynnig cymorth delfrydol i syniadau ac artistiaid i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.”
Mae WalesLab yn gwahodd ceisiadau erbyn yr 28ain o Fawrth 2014. Fe fydd mwy o gyfleon i gynnig syniadau yn y dyfodol. Ceir ffurflen gais a gwybodaeth ar wefan National Theatre Wales, neu am sgwrs bellach cysylltwch â Theatr Genedlaethol Cymru.
http://nationaltheatrewales.org/cy/waleslab