Trydydd Wythnos Ymarferion

Gan Steffan Gwynn

Rhy’n ni’n tynnu at ddiwedd ein trydedd wythnos. Gyda thair wythnos arall i fynd tan i ni agor yn Aberdaugleddau, mae hi’n teimlo’n wythnos o bwys yma. Serch hynny, rhag colli golwg ar le y’n ni nawr, mae hi’n bwysig i beidio ag edrych yn rhy bell ymlaen. Fu hi’n wythnos brysur yma.

Mae ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ fel drama yn llawn o ryw eiliadau tyngedfennol, ac ymysg y pwysicaf yw’r eiliad pan mae Elida, ein prif gymeriad, yn esbonio ei gwewyr meddwl i’w gŵr. Yn un o’m hoff rannau o’r sgript, cawn glywed am yr angerdd a’r arswyd y mae’r môr yn deffro oddi mewn iddi – ei ‘stormydd a’i gostegion’. Y rhestr hir o anifeiliaid y môr, dwi’n meddwl, yw’r peth pennaf sy’n fy nenu at y rhan yma o’r sgript: boed yn forfilod neu’n fulfrain, mae’r modd y mae Elida’n ymgolli yn eu henwi yn dod â’i pherthynas â’r môr yn fyw i mi. Roedd hi’n braf gweld hynny’n digwydd ar lwyfan yr wythnos hon.

Ond gwnaethpwyd cymaint o waith oddi ar y llwyfan ag arno yn ystod y dyddiau diwethaf hefyd, wrth i ni recordio talfyriad Saesneg o’r sgript ar gyfer platfform gyfieithu newydd Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Sibrwd’. Seiriol Tomos, sy’n chwarae rhan yr artist Ballestad, yw llais ‘Sibrwd’ y tro hwn, ac addas iawn yw ‘sibrwd’ fel gair i ddisgrifio’r llais cynnes, tawel a fydd yn tywys y gynulleidfa ddi-gymraeg trwy holl hynt a helynt y ddrama. Wedi’i dreialu yng Ngŵyl Theatr Leiafrifol Bautzen yn Yr Almaen fis Hydref diwethaf, dyma fydd y tro cyntaf i Sibrwd gael ei ddefnyddio yng Nghrymu. Bydd mynediad i bawb felly yn y cynhyrchiad hwn.

Gan i mi ddechrau gyda’r rhif tri, mae hi’n addas hefyd i mi orffen gydag e, a dweud wrthym ni ddechrau gweithio ar y drydedd act ddoe, gan fwriadu cyrraedd ei diwedd hi erbyn diwedd y dydd heddiw. Dyma’r act lle down wyneb yn wyneb â’r Dieithryn am y tro cyntaf, dyweddi Elida sy’n dychwelyd o’i gorffennol ac o farw i fyw – neu felly mae’n ymddangos – wedi degawd hir o deithio ar longau o un pen y byd i’r llall. Daw yn ôl i bresennol ein sioe, yn dod â holl hud a hunllef y môr gydag e, ac yn ymgorffori holl bryderon creiddiol Elida ynghylch rhyddid, dyletswydd, a’r hawl i ddewis drosti hi ei hunan.

Eiliad dyngedfennol arall. Yn ôl at yr ystafell ymarfer nawr felly i’w gweld hithau’n dod yn fyw ar lwyfan.

Advertisements

Dod i adnabod tîm creadigol Y Fenyw Ddaeth o’r Môr

Dan Lawrence. Cyfansoddwr.

A wyddoch chi bod cyfansoddwr ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’, Dan Lawrence, yn gallu chwarae bron i bob offeryn llinynnol dan haul? Mae hefyd yn medru’r drymiau, ac roedd yn arfer chwarae gyda’r band Sibrydion.  Ar hyn o bryd, mae mewn amryw o fandiau gwerin, ac wedi cyfansoddi ar gyfer dau gynhyrchiad theatr arall sydd yn agor mis Chwefror sef  ‘The Forthsythe Sisters’ a ‘The Harri Parris’. Dan oedd yn gyfrifol am gyfansoddi a chreu cynllun sain iasol Y Negesydd y llynedd ac rydym yn falch o’i gael yn ôl yn cydweithio gyda ni eto.

Dan, headshot

Dod i adnabod tîm creadigol Y Fenyw Ddaeth o’r Môr

Ceri James yw Cynllunydd Goleuo Y Fenyw Ddaeth o’r Môr.

Mae Ceri wedi goleuo dros 150 o gynyrchiadau ac wedi teithio i weithio yn yr Almaen a’r Amerig.Fe oedd yn gyfrifol am oleuo Blodeuwedd i ni y llynedd ac yn ddiweddar bu’n goleuo pantomeim Nadolig Theatr y Torch sef Cinderella .Er iddo oleuo sawl testun clasurol dyma’r tro cynta iddo weithio ar ddrama gan Ibsen .Bydd yn defnyddio tipyn o gel L366 Cornflower blue i oleuo Y Fenyw er mewn creu teimlad o scandi noir. Erbyn hyn mae Ceri a’r teulu wedi symud i fyw nepell o HQ Theatr Gen sef yn Llanarthne ac mae’n giamstar ar golli allweddi!

dyma gip olwg o rhai o’i waith

Blodeuwedd/Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru/Coleg y Drindodceri james

_DSC5883

llun cer j 2

llynia ceri j

Ail Wythnos Ymarferion #Yfenyw

Gan Steffan Gwynn

Mesul tudalen, ry’n ni wedi bod yn gweithio trwy’r act gyntaf a dechrau’r ail act yr wythnos hon. Mae’r gwaith wedi bod yn drylwyr ac yn bwyllog, ond yfory, wedi’r holl ddadansoddi a phennu amcanion i’r cymeriadau, byddwn yn gweld popeth yn dod ynghŷd gyda’n rhediad gyntaf o’r act gyntaf.

 ninnau’n dechrau rhoi’r ddrama ar ei draed, braf oedd cael ymarfer ar lawr y set – set welw, gynnil, gwyn a glas, sy’n cynnig amryw o bosibiliadau wrth ddechrau gweld y ddrama’n magu bywyd ar lwyfan. Bydd gweddill y set yn cyrraedd Caerfyrddin yr wythnos nesaf, a braf bydd cael gweld y ddrama wedi’i fframio gan estyll a mynyddoedd atmosfferig y set bryd hynny.

O’m rhan i, dwi wedi bod yn gweithio gydag ambell aelod o’r cast yn tyrchu trwy’r sgript er mwyn ffeindio ffeithiau diymwad ynghylch eu cymeriadau – y math o ffeithiau y mae rhywun yn cymryd yn ganiatäol o fewn bywyd dydd i dydd: ‘dwi’n byw mewn tŷ’, ‘ger y tŷ mae’r ffiord’, ‘dwi’n nofio yn y ffiord yn ddyddiol’ . . . Dyma’r fath o ffeithiau sydd yn gefndir, ac yn lliwio personoliaeth cymeriad cyn i’r sioe ddechrau. Fel yma, daw’r cymeriadau yn gyflawn i’r llwyfan, ac yn bobl cig a gwaed.

Dwi hefyd wedi bod yn gweithio ar sgript y ddrama, yn gweithio gyda Menna Elfyn er mwyn ei gyhoeddi. Mae’r gwaith hwnnw yn dod ynghŷd, a bydd copïau gennym ar daith ym misoedd Chwefror a Mawrth. Byddem yn dod â’r ddrama i’r Gymraeg am y tro cyntaf ar lwyfan ac mewn print felly.

Ac, o hynny, ymlaen at yr wythnos nesaf, lle bydd rhagor o waith dehongli’r testun o amgylch bwrdd a’i roi ar ei draed ar lwyfan. Mae pob sesiwn yn dod â rhywbeth newydd i’r fei, sydd yn gyson yn ei gwneud hi’n brofiad diddorol a dymunol. Mae cael treulio cyhyd yn trafod darn o waith creadigol yn bleser, rhywbeth sy’n ail yn unig i’w weld yn dod yn fyw ar lwyfan.

Sibrwd, y ffrind Poced ar Daith

Wrth i Theatr Genedlaethol Cymru fynd â’r ddrama newydd ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ gan Henrik Ibsen ar daith fis Chwefror a Mawrth yma, bydd ap newydd y Theatr yn golygu bod modd i’r rheiny sydd yn dysgu Cymraeg ddeall yn well beth yw stori’r ddrama.

Mae’r ap, a elwir yn Sibrwd, yn caniatáu i bobl nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg i fedru mwynhau y theatr Gymraeg, a hynny drwy ddefnyddio clustffonau a ffôn symudol.

Yn ôl Carys Ifan, Uwch Gynhyrchydd Theatr Genedlaethol, mae’r ap yn fynediad i berfformiad, beth bynnag fo’r iaith.

‘ Hyd yma mae uwchdeitlau a chardiau crynodeb wedi cael eu defnyddio gennym ond mae anfanteision i’r naill a’r llall. Er enghraifft, mae uwchdeitlau yn golygu darllen a cholli’r digwydd sydd ar y llwyfan ac ambell dro yn  tarfu ar brofiad y rhai sydd yn medru Cymraeg ac mae cardiau crynodeb yn gallu sbwylio’r plot.

‘ Mae Sibrwd yn rhywbeth gwbl newydd. Mae’n cynnig cyfle i glywed a darllen ynodeb  Saesneg o’r hyn sydd yn digwydd yn y ddeialog Gymraeg drwy ‘ap’ ar ffôn symudol,, a., Gall aelodau’r gynulleidfa lawrlwytho’r ap i’w ffôn yn rhad ac am ddim a chael llais yn sibrwd esboniad o’r plot iddynt bob hyn a hyn. ,’ esboniodd Carys yn frwd.

Datblygwyd y dechnoleg dros gyfnod o fisoedd ar y cyd â’r partner technegol Galactig gyda chymorth gan y Gronfa Ymchwil a Datblygu Digidol i’r Celfyddydau yng Nghymru – Nesta, Cyngor Celfyddydau a’r Dyniaethau a chyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Treualwyd yr ap yn wreiddiol fis Mai y llynedd yn ystod taith ‘Y Negesydd’ ac roedd yr ap yn hynod boblogaidd gyda nifer yn dweud bod Sibrwd ‘fel ffrind poced newydd.’Cafwyd mwy o adborth cadarnhaol yn ystod y  cynhyrchiad o Dyled Eileen yn yr Eisteddfod Genedlaethol . a hefyd yn yr Almaen ble roedd modd clywed y talfyriad o Pridd mewn Saesneg, Almaeneg a Sorbeg.

Mi fydd Sibrwd ar gael i gydfynd gyda holl gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod 2015.

Nodiadau ychwanegol:

  • Mae modd lawrlwytho Sibrwd yn rhad ac am ddim i’r i-ffôn a ffôn Android
  • Bydd tîm o gynorthwy-wyr digidol ar gael ym mhob lleoliad ar y daith i gynorthwyo pobl i ddefnyddio Sibrwd
  • Mae’n bosibl i chi fenthyg ipod os nad oes gennych ffôn smart ond bydd angen cofrestru gyda swyddfa docynnau’r ganolfan.
  • Er mwyn datblygu Sibrwd mae eich adborth yn hynod bwysig

#Cyfarwyddwr cynorthwyol

Gan Steffan Gwynn

Ar ddechrau pob cynhyrchiad, down at ein gilydd fel cwmni i gynnal cyfarfod croeso. Â ninnau ar fin dechrau ymarferion ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ yr wythnos nesaf, mae’n bryd i mi gyflwyno’n hun felly mewn rhyw lun ar gyfarfod croeso ddigidol – fy enw i yw Steffan Gwynn, ac yn ystod yr wythnosau nesaf, bydda’ i’n gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i Arwel Gruffydd ar addasiad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘stori garu fwyaf’ Henrik Ibsen.

O ddydd i ddydd, bydda’ i yno yn yr ystafell ymarfer, yn arsylwi, dysgu, ac yn cynnig barn o dro i dro. Dwi’n edrych ymlaen at gynorthwyo lle bo’r angen, ac i barhau’r â’r gwaith ymchwil dwi bod yn gwneud ers cyn y flwyddyn newydd. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda corau ledled Cymru, wrth i ni ddod â pheth o gerddoriaeth Norwy i’r llwyfan, ynghŷd â’r ddrama ei hunan.

Ond un o’r pethau yr ydw i’n edrych ymlaen ato fwyaf dros yr wythnosau nesaf yw i fynd i’r afael â’r script, a dod i’w deall hi yn ei chyfanrwydd. Ynghŷd â bod yn stori garu ddirgel, mae yna arsylwadau yma ar wyddoniaeth, ar gelfyddyd, ac ar drefn cymdeithas. Yn fwyaf diddorol efallai, cawn ddarganfod sut y mae tirlun yn medru dylanwadu arnom fel pobl.

Mae hynny a llawer mwy yn bod o fewn geiriau’r ddrama, a bydd y cyfle i archwilio’r pethau rheiny – ynghŷd â gweithio efo cast a chriw mor dalentog – yn siwr o’i gwneud hi’n brofiad diddorol a chofiadwy.

Her newydd i’r bardd o Landysul

Mae’r Athro Menna Elfyn o Landysul wedi bod yn brysur iawn yn trosi drama un o ddramodwyr enwocaf y byd. Menna yw’r cyntaf i drosi’r ddrama ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ gan Henrik Ibsen i’r Gymraeg, a hynny ar gyfer drama lwyfan gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Menna, sydd yn adnabyddus iawn i ni fel bardd ac awdures, yn Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol yn Y Drindod Dewi Sant. Mae wedi cyhoeddi dwsin o lyfrau o farddoniaeth, hefyd nofelau i blant, libreti ar gyfer cyfansoddwyr yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau yn ogystal ag ysgrifennu dramâu ar gyfer radio a theledu.

Mae hefyd yn golofnydd gyda’r ‘Western Mail’ ers 1994 ac wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i dros 20 o ieithoedd, a chafodd fwynhad mawr yn cyfieithu’r ddrama hon i’r Gymraeg.

‘ Dw i’n meddwl yn uchel iawn am waith Ibsen, mae e gyda’r gorau ac mae e mor flaengar, mor oesol a chyfoes. Mae e’n siarad gyda ni heddiw yn yr un ffordd ag oedd e dwy ganrif yn ôl. Mae e’n arbennig fel mae e’n gallu creu cymeriadau cofiadwy ac mae e wir yn deall dyfnder y natur ddynol ac yn tynnu nhw i’r wyneb. Mae ei ddramâu yn gwneud i ni feddwl a theimlo a theimlo’n wahanol wedi eu gweld,’ esboniodd Menna’n frwd.

‘ Yn wir, pan roeddwn i’n trosi, rown i’n trosi’n betrus mewn ffordd fel tase Ibsen yn edrych dros fy ysgwydd a bron yn clustfeinio. Rhyw barchedig ofn o’i ysbryd e,’ chwarddodd Menna. ‘ Mae trosi drama fy hun yn wahanol iawn i drosi gwaith dramodwr arall.’

Cyn trosi, fe wnaeth Menna ddarllen ac astudio tri chyfieithiad Saesneg. Rhaid oedd sicrhau bod yr addasiad Cymraeg yn gywir a chafodd gymorth Siri Wigdel sy’n wreiddiol o Norwy. Ac er wnaeth Menna fwynhau’r gwaith o drosi ac addasu, mae’n cyfaddef ei bod wedi bod yn dipyn o her hefyd.

Meddai Menna: ‘ Roeddwn ni am ddefnyddio’r trosiad mwyaf triw a gyda chymorth Siri, fe wnaethom ddarllen y Saesneg gair am air o’r Norwyeg ac yna minnau yn dweud y gair Cymraeg wrthi. Doedd e ddim yn hawdd, gan fod newid gair yn gallu newid ystyr yn hawdd. Mae’r cymeriadau yn rhai rhyfedd hefyd yn rhai mai rhywun yn gallu uniaethu hefo nhw.’

Yn ferch i geidwad goleudy, mae’r prif gymeriad Elida, yn ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf. Mae ymweliad rhyw ddieithryn yn corddi’r dyfroedd. Ond ai dieithryn yw ef mewn gwirionedd? Wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â’i gorffennol cythryblus, yn sydyn rhaid gwneud y penderfyniad anoddaf un…aros neu ffoi?

Bydd y stori garu fwyaf cyffrous hon gan Ibsen, dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd,

yn agor yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau ganol Chwefror ac yn teithio ar draws Cymru – i Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Caerdydd a Llanelli.

Menna Elfyn