Lleoliad gwaith Dyfan Llyr

Fy enw i yw Dyfan Llyr Rhys ac rwy’n gweithio i Theatr Genedlaethol Cymru fel Rheolwr Technegol.

O ganlyniad i grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ystod mis Hydref cefais y cyfle i dreulio 4 wythnos yn adran gynhyrchu English Touring Opera.

Pwrpas y grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw i mi barhau i ddysgu a datblygu fy sgiliau o fewn y diwydiant trwy weithio gyda chwmnïau gwahanol yn y diwydiant.

Mae English Touring Opera yn un o gwmnïau opera mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig, sydd yn teithio i fwy o ranbarthau a lleoliadau nag unrhyw gwmni opera arall yn Lloegr. Pob blwyddyn mae’n teithio i tua 55 o leoliadau gwahanol ac yn cyflwyno cynifer â 110 o berffomiadau bob blwyddyn.

Bu’n brofiad arbennig i gydweithio gyda ETO a bydd modd i mi drosglwyddo yr hyn wnes i ddysgu, yn enwedig am drosglwyddo setiau mawr o theatr o theatr, o fudd i mi tra’n Reolwr Cynhyrchu ar gynhyrchiad nesa Theatr Gen sef ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Mor’ sydd a set werth ei weld!

 

Lleoliad gwaith Dyfan 2014llun d

Advertisements

Helo o ochr draw’r byd

Ers pythefnos bellach dwi wedi bod yma yn Hobart, dinas fwyaf Tasmania, yn gweithio gyda gŵyl Ten Days on the Island. Roeddwn i’n lwcus iawn i dderbyn grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i dreulio tri mis o brofiad gwaith gyda tri chwmni celfyddydol gwahanol, gydag un o’r rheiny dramor. Dewisais Tasmania gan fod cyswllt gyda ein Cyfarwyddwr Artistig, Arwel Gruffydd, â’r ŵyl yn barod, ac mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar draws yr ynys mewn lleoliadau amrywiol, sydd yn debyg i’n gwaith ni fel cwmni teithiol.

Tasmania

Beth oeddwn i’n ei wybod am Tasmania cyn dod? Braidd dim a bod yn hollol onest. Tasmanian Devils. A ie, dyna fe. Ond ers cyrraedd yma dwi’n sylweddoli bod cymaint mwy i’r ynys hardd yma! Mae’r hanes yn un diddorol.  Yn y 1800 fe wnaeth Prydain anfon dros 70,000 o garcharorion yma. Cafodd miloedd ar filoedd o eu cludo o Brydain ar longau, ac fe wnaeth nifer fawr aros yma ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, ac felly mae na lot o ddylanwad Prydeinig yma. Allai ond dychmygu’r brofiad o gyrraedd yma ar y cwch – mae’n teimlo ben draw’r byd hyd yn oed gyda ffonau symudol, skype a’r we, ac wrth edrych mas i’r môr o Hobart a sylweddoli nad oes dim rhyngdda i ag Antartica, mae wir yn teimlo ben draw’r byd. Dwi ddim yn siwr faint o Gymry ddaeth allan yma ond mae na llawer o gyswllt gyda Chymry yn bodoli yma. Y diwrnod cyntaf i mi gyrraedd, des i ar draws busnes o’r enw Pili Pala (roedd y ferch oedd berchen y busnes arfer byw yng Nghaerfyrddin), weles i Swansea ar y map a chyffroi, wnes i gwrdda menyw oedd yn dweud mai Sain Ffagan oedd y lle gorau iddi fod erioed ac roedd pawb roeddwn i’n cwrdd a nhw gyda ryw cyswllt â Chymru (enwau amrywiol, Medwyn, Morgan, Llewelyn).

Ten Days

Mae gŵyl Ten Days yn cael ei chynnal yn mis Mawrth, bob dwy flynedd. Dwi yma yn ystod cyfnod paratoi gŵyl 2015. Mae nhw’n dîm bach – ryw 15 ar hyn o bryd ond mae na nifer o bobl yn gwirfoddoli yma hefyd i fod o gymorth wrth i gyfnod yr ŵyl agosau. Mae’r ŵyl yn cynnwys dawns, theatr, celf, sioeau i deuluoedd a lleoliad Spiegeltent sydd yn cynnwys cabaret a cherddoriaeth. Mae ychydig dros 500,000 o bobl yn byw yn Tasmania a’r rhan fwyaf yn byw yn y de yn Hobart. Ond mae na gymunedau ar draws yr ynys ac mae nifer o’r cymunedau yma yn dioddef tlodi ac mae diweithdra yn broblem enbyd. Dyma dalaith tlodaf Awstralia, ac felly mae cynnal gŵyl fel yma – am ddeg diwrnod ar draws yr ynys – yn bwysig ond hefyd yn her i berswadio pobl i brynu tocynnau. Dwi’n gweithio’n benodol ar stratagaethau marchnata ar hyn o bryd ac yn gymorth i gasglu deunyddiau at ei gilydd yn barod i’r gwaith marchnata ddechrau o ddifrif yn mis Ionawr.