Gweithdy Clownio ‘Pridd’

Mae cast Pridd, cynhyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru, yn brysur yn y Llwyfan, Caerfyrddin heddiw yn dysgu triciau clownio.  Mae Holly Stoppit, sy’n arbenigo mewn triciau clownio wedi dod i’r Llwyfan i roi cyngor i Owen Arwyn, sy’n chwarae rhan Handi Al yn Pridd.

Drama newydd Aled Jones Williams yw Pridd ac fe fydd ar daith ar draws Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd y daith yn cychwyn y Llwyfan, Caerfyrddin, ar y 6ed o Dachwedd (rhagddangosiad) cyn teithio i wyth lleoliad arall. Ceir dyddiadau’r daith ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru 

Holly Stoppit, Ruth Hall (cynllunydd set) Owen Arwyn (actor) a Sara Lloyd (cyfarwyddwr) yn ngweithdy clownio Pridd

Advertisements