Steffan yn sgwrsio gyda Sara Lloyd

Bore ma, mewn bwlch yn ei hamserlen yn ymarfer sioe ‘Pridd’ gan Aled Jones Williams yn barod ar gyfer Gŵyl Odysse ym Mudyšin, Yr Almaen, cefais sgwrs ffôn gyda’r gyfarwyddwraig Sara Lloyd ynglŷn â’r her newydd y mae hi’n wynebu wrth ail-lwyfanu’r ddrama.

Roedd hi’n brofiad cyffrous, dywedodd, i gael gweithio eto gyda ‘Sibrwd’ – ap arloesol Theatr Genedlaethol Cymru sy’n sibrwd talfyriadau o ddigwyddiadau’r sioe mewn amryw o ieithoedd yng nghlust y gwrandawr. ‘Roedd gweithio ar Sibrwd fel rhan o ‘Y Negesydd’ yn rywbeth cwbwl newydd i mi,’ dywedodd Sara, ‘roedd hi’n brofiad braf i gael gweithio gyda’r awdur i greu synopsis o’r gwaith, gan geisio cadw’r balans rhwng ysgrifennu rhywbeth cryno a chadw’n driw i ystyr a neges y gwaith gwreiddiol. Roedd hynny’n sialens ddiddorol.’

Bellach, mae Sara yn gweithio gyda Siân Summers ar dalfyriad o ddrama Aled Jones Williams a fydd yn cael ei ddarlledu nid yn unig yn y Saesneg, ond yn yr Almaeneg a’r Sorbeg hefyd wrth i sioe ‘Pridd’ deithio i Budyšin ar gyfer Odysse, yr ŵyl theatr ieithoedd lleiafrifol a chaiff ei gynnal yn y ddinas. I’r gyfarwyddwraig, sy’n llwyfanu’r ddrama am yr ail dro, mae hwn yn golygu edrych ar y darn o safbwynt wahanol.

‘Ar ddechrau’r broses mae rhywun yn awyddus i gyflwyno pob dim i’r gynulleidfa di-Gymraeg,’ eglurodd dros y ffôn, ‘ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae rhywun yn dysgu blaenoriaethu. Mae’n rhaid penderfynu pa agweddau o’r ddrama sydd yn fwyaf allweddol ar gyfer dealltwriaeth y gynulleidfa di-Gymraeg a beth sydd yn amlwg o’r hyn a welir ar y llwyfan. Dyw rhywun ddim eisau eu gorlwytho nhw â chlipiau sain a pheidio rhoi digon o amser iddynt i wylio a darllen y perfformiad.’

Wedi darganfod y balans hwn, mae’r broses yn un rhwydd i’w gynnal yn ôl Sara. Caiff y talfyriad ei droi i mewn i gyfres o esboniadau cryno gan awduron sy’n medru’r iaith y mae’r ddrama’n cael ei gyfieithu iddo, a caiff yr esboniadau rhain eu recordio wedyn gan actor, a’u gosod ar system ddigidol Sibrwd.

‘O’r pwynt yna ymlaen, mae hi’n gweithio’n union fel sain neu oleuadau sioe,’ eglurodd. ‘Mae’n rhaid penderfynu lle a phryd i’w ciwio, a chael ffydd wedyn yn sgil y rheolwr llwyfan i giwio Sibrwd gyda’r un sensitifrwydd ag y byddai’n ciwio’r golau a’r sain o fewn y sioe. Peth braf ydi eistedd mewn cynulleidfa a gweld pobol o ddiwylliannau gwahanol yn gallu mwynhau gwaith ei gilydd a deall gogwydd newydd ar y diwylliant yna.’

Advertisements

Diwrnod cenedlaethol rheolwyr llwyfan

Mae’r dydd yn dechrau gyda awr o siwrne i’r gwaith, dwi’n parcio’r car, tynnu’r bag mas o’r sedd gefn, a throi tua’r Llwyfan, lle mae’r ddesg yn disgwyl amdanaf i. Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn cyrraedd y swyddfa’n gynnar – tua hanner awr wedi wyth (i osgoi traffig!) – ac felly fi, yn aml, fydd y cyntaf trwy’r drws. Wrth ddisgwyl i’r adeilad ddeffro felly, dwi’n troi fy nghyfrifiadur ymlaen, a’n rhoi’r tegell i ferwi.

Mae fy ngwaith fel Rheolwr Llwyfan Theatr Genedlaethol Cymru yn golygu fy mod i, ar hyn o bryd, yn troi fy ngolygon tua’r flwyddyn newydd, a’r llu o brosiectau sy’n digwydd bryd hynny. Fel rhan o’m gwaith, dwi’n gyfrifol am gyflogi a chytundebu,  ynghŷd â gosod amserlenni cynhyrchu yn eu lle ar gyfer ein cynhyrchiadau. Ar fy agenda’r wythnos hon mae taith flwyddyn-newydd y sioe blant ‘Hwyaden Fach Hyll’. Unwaith bydd y cynhyrchiadau wedi dechrau ar y broses o ymarfer, fi sydd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y cynhyrchiad. Ynghŷd â’r rheolwyr llwyfan cynorthwyol, dwi’n gofalu bod y set, y celfi, a’r props yn yr ystafell ymarfer ac yn gofalu bod rhain o fewn y gyllideb. Dwi’n gweithio’n agos iawn gyda’r cyfarwyddwr a’r cynllunwyr i sicrhau bod eu cynllun a’u syniadau yn cael eu gwireddu ar lwyfan i’r safon uchaf posib.

Rydw i hefyd yn gyfrifol am gwbwlhau asesiadau risg ar gyfer y cynhyrchiadau rhain, ac rwyf wrthi’n ddyfal ar hyn o bryd yn eu cwbwlhau cyn gadael am Seland Newydd yr wythnos nesaf ar fy mis mêl.

Bydd hi’n brofiad rhyfedd i beidio a bod yn meddwl am brosiectau’r flwyddyn newydd, a chanolbwyntio yn lle ar yrru’r winnebago ar lannau llyn Taupo yn Waikato – ond dwi’n siwr y dof i ben ag e! Pan ddof i yn ôl ym mis Tachwedd, byddwn yn nesáu at ddiwedd y flwyddyn, ac fe fydd hi’n bryd i wneud y paratoadau olaf ar gyfer sioeau 2015. Mis mêl a phrosiectau newydd – cyfnod cyffrous iawn.

llun anj #1

Steffan ar brofiad gwaith efo NTW.

Os oes un peth y gwnaf i gofio o’m cyfnod fel dylunydd ar sioe National Theatre Wales ‘Yr Helfa / The Gathering’, yna cerdded tair cilomedr i lawr llethrau’r Wyddfa yn cario tiwba yw hwnnw.

Ac mae hynny’n ddweud mawr, achos roedd y tair wythnos a dreuliais ar leoliad gyda’r cwmni yn llawn o ryw bethau cyffrous, anarferol, a chofiadwy. Ers y diwrnod cyntaf, roedd hi’n brosiect â rhywbeth gwahanol yn perthyn iddi – yn hytrach na darllen trwy’r sgript, euthum am dro i fyny’r Wyddfa, â’r gyfarwyddwraig Louise Ann Wilson yn paentio darlun ar hyd y daith o’r hyn a oedd yn mynd i ddigwydd yn ystod y sioe. Clywsom am yr acrobat a oedd yn mynd i gerdded ar hyd yr hen inclên, a hwnnw wedi’i orchuddio gan stribed hir o garped coch, ac fe glywsom am yr offerynnau pres a’u hemynau a fyddai’n atseinio trwy lonyddwch Cwm Llan.

Wedi’r cyflwyniad a’r eglurhad cyntaf hwnnw, roedd hi’n bryd mynd ati i geisio gwireddu’r weledigaeth. Aeth diwrnodau heibio’n ddyfal yn paentio enwau caeau ar arwyddion llechi, ac fe dreuliais i ac eraill brynhawn heulog ar ael Braich yr Oen yn gorchuddio cerrig y nant fechan â defnydd coch. Yn raddol, ymdebygai’r mynydd i osodiad celf gyfoes, ac yn lwyfan addas ar gyfer perffomiadau’r pedwar actor a oedd wrthi’n ymarfer i lawr yn fferm yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol, Hafod y Llan.

Roeddem ni wrthi’n paentio llythrennau olaf cerdd Gillian Clarke ‘The Old Ram’ ar wal hen adfail lechi yn uchel yn y cwm pan ddechreuodd yr actorion ymarfer ar y mynydd o ddifri tua diwedd yr ail wythnos. Roedd hi’n braf eu clywed nhw yn galw dros y cwm, yn gweiddi ac yn chwibannu, ac yn adrodd geiriau Gillian Clarke, awdur y ddrama, mewn awyrgylch mor hardd.

Wedi unigedd y paratoi, rhyfedd oedd hi felly i groesawu dau gant o bobl i’r mynydd ar ddydd Gwener cynta’r perfformiadau, a phrofi rhyfeddodau’r sioe fel rhan o dorf. Fues i’n arwain un o’r deg grŵp a aeth i fyny Llwybr Watkin, ac roedd sgwrsio a chael clywed syniadau amrywiol a newydd pobl am y sioe a’i hystyron yn braf.

Ac os caf i fentro sôn am un atgof arall a fydd yn aros yn fy meddwl – ar ben cario’r tiwba i lawr Llwybr Watkin – yna’r profiad o glywed nodau staccato’r offerynnau pres, chwibannu’r bugeiliaid, a chyfarth y cŵn yn galw ac ateb o grib i grib ac yn llenwi’r cwm yw’r atgof hwnnw. Profiad arbennig, ac yn ateb syml i’r cwestiwn a ofynwyd i mi sawl gwaith wrth dywys y gynulleidfa yn ystod penwythnos y sioeau, ‘pam llwyfannu sioe ar ochr mynydd?’

llun steff yn ntw

‘Hwyl am y tro!’

Gan Lowri Johnston, Rheolwr Marchnata Theatr Gen

Mae ‘na gyfnod cyffrous o’n mlaen i dros y misoedd nesaf. Dwi wedi cael arian grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i fynd i dreulio mis ar y tro gyda thri cwmni celfyddydol fel cyfnod o brofiad gwaith, er mwyn gallu dod nol i’n swydd yn Theatr Genedlaethol Cymru gyda phrofiadau o gwmiau eraill. Felly dwi’n sgwennu hwn ar fy niwrnod olaf yn y swyddfa am dri mis… Teimlad rhyfedd! Wythnos nesaf, byddaf yn cychwyn cyfnod o bedwar wythnos gyda thîm y wasg y National Theatre yn Llundain. Bydd hwn yn brofiad a hanner dwi’n siwr a dwi methu aros i weld sut mae nhw’n gwneud eu gwaith o ddydd i ddydd, pan yn gweithio ar gymaint o brosiectau amrywiol. Pan fydda i yno, y prif gynhyrchiadau fydd ymlaen yn y Southbank fydd The James Plays a Here Lies Love. Heb sôn am y cynhyrchiadau sydd ymlaen ar draws Llundain (Curious Incident of the Dog in the Night-time a Warhorse), y sioeau sydd yn darlledu’n fyw i sinemau, y rhai sydd ar daith a’r prosiectau amrywiol eraill. Bydd digon i’w wneud dwi’n siwr! Ac fe fydd byw yn Llundain yn eithaf gwahanol i Gaerfyrddin hefyd! Fe wnaf roi gwybod sut mae’n mynd – er y byddaf yn mynd syth o Lundain i Awstralia ar gyfer yr ail gyfnod o brofiad gwaith… Ond, mae honno’n stori arall!
Dilynwch fi ar fy nheithiau – @lowrijj

Pridd yn teithio i Bautzen, yr Almaen

Pridd yn cael ei pherfformio mewn gŵyl theatr ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd.

Yn mis Hydref eleni bydd detholiad o Pridd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn cael ei berfformio fel rhan o ŵyl theatr ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn Bautzen, yr Almaen, o’r enw Odyssee.  Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ac fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ymuno â chwmnïau theatr amrywiol ar draws Ewrop i arddangos eu gwaith, ynghyd â chydweithio i archwilio posibiliadau o sefydlu’r ŵyl hon fel gŵyl barhaol, ac i greu cywaith theatraidd i’r dyfodol a fydd yn dod â phrofiadau lleiafrifol brodorol Ewropeaidd ynghyd.

Fe fu Pridd, gan Aled Jones Williams, ar daith o amgylch Cymru yn ystod 2013, ac fe ysgrifennwyd y ddrama yn arbennig ar gyfer yr actor Owen Arwyn, sydd yn chwarae’r prif ran, Handi Al.  Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni, sydd yn cyfarwyddo’r darn, a fydd yn rhan o noson o berfformiadau gan y cwmnïau gwahanol sy’n ymwêld â’r ŵyl.

Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig y defnydd cyhoeddus cyntaf o Sibrwd yn ystod y perfformiad, a fydd yn golygu y bydd talfyriad sain ar y pryd ar gael i’r gynulleidfa o’r ddrama mewn tair iaith; Saesneg, Almaeneg a’r Sorbeg.  Mae’r Sorbeg yn iaith frodorol leiafrifol sy’n cael ei siarad yn Lusasia yn nwyrain yr Almaen, ac mae’r ŵyl yn cael ei chynnal gan gwmni theatr Almaeneg-Sorbeg o’r enw’r Volkstheater, sydd a’i gartref ym mhrif ddinas y dalaith, Bautzen.

Dyma’r tro cyntaf i gynulleidfaoedd yn unrhyw le gael y cyfle i ddefnyddio’r app Sibrwd sydd wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Galactig.  Mae’n syniad arloesol sydd yn rhoi’r cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau perfformiadau mewn unrhyw iaith.  Mae Sibrwd wedi ei ddatblygu gyda chymorth y Gronfa Ymchwil a Datblygu Digidol i’r Celfyddydau yng Nghymru – Nesta, Cyngor Celfyddydau a’r Dyniaethau a chyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yr unig beth fydd angen i’r gynulleidfa ei wneud yw lawr-lwytho’r app, gwisgo clustffonau, ac fe fydd yr app yn sibrwd pytiau yn iaith ddewisedig yr aelod o’r gynulleidfa, er mwyn dilyn yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan.

Wedi ei greu yn bennaf i roi mynediad ac i gyfoethogi profiad dysgwyr a’r di-gymraeg i waith Theatr Genedlaethol Cymru, mae gan Sibrwd y potensial hefyd i fod o ddefnydd rhyngwladol, drwy gynnig mynediad i berfformiadau a phrosiectau mewn unrhyw iaith.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru;

“Mae’r ŵyl yma’n gyfle arbennig i ni fel cwmni arddangos ein gwaith ar lwyfan rhyngwladol, ac i ni gael cyfarfod cwmnïau eraill sydd hefyd yn gweithio mewn ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd er mwyn trafod syniadau a rhannu profiadau.  Mae’r ffaith ein bod ni hefyd yn gallu manteisio ar y cyfle hwn i gynnig Sibrwd am y tro cyntaf i gynulleidfa ryngwladol yn hynod gyffrous, a hynny wedi blwyddyn ddifyr a chynhyrchiol o ddatblygu’r platfform digidol arloesol hwn.  Rydym ni’n edrych ymlaen at ei ddefnyddio yn y dyfodol agos mewn perthynas â rhai o’n cynyrchiadau nôl adref yng Nghymru hefyd.”

Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cymryd rhan yng Ngŵyl Odyssee rhwng y 23ain a’r 26ain o Hydref, gyda Pridd yn cael ei pherfformio yno ar y noson agoriadol.