Amdanom Ni

Theatr Genedlaethol Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Mae’n creu rhaglen amrywiol o waith theatraidd eang ei apêl, sy’n cynnwys cynyrchiadau teithiol prif ffrwd, prosiectau cymunedol, profiadau theatr safle benodol, a gweithgaredd theatraidd dychmygus ac uchelgeisiol ledled Cymru a thu hwnt. Yn ogystal â chyflwyno theatr a thestunau clasurol a chydnabyddedig, mae’n arbrofi gyda dulliau amgen o gyflwyno theatr ac yn manteisio ar yr holl adnoddau sydd ar gael iddo er mwyn creu profiadau theatraidd sy’n cynnig i’w gynulleidfaoedd gyfleodd i chwerthin, i ddwys ystyried, i ddarganfod o’r newydd, i gael eu herio, i gwestiynu ac i ddathlu. Gyda phartneriaid creadigol o Gymru a’r Deyrnas Gyfunol, ynghyd â phartneriaid rhyngwladol, mae’n anelu’n gyson at ddatblygu cynulleidfaoedd newydd, platfformau amgen, a chyfleoedd ehangach i gyflwyno’i waith, gan ymdrechu i gryfhau rôl y theatr ym mywyd y genedl gyfan.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd yn cynnig amrywiaeth o brosiectau cyfranogol, sy’n cyfoethogi profiad y cyhoedd o waith y cwmni ac sy’n archwilio’r berthynas rhwng y gynulleidfa a’r gwaith creadigol ei hun. Trwy gyfrwng, er enghraifft, gweithdai a sesiynau trafod a holi, gweithgaredd digidol ac ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chyfleodd i gyfrannu’n uniongyrchol at brosiectau creadigol, mae’r cwmni’n ymdrechu’n gyson at ddatblygu ei berthynas gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau o bob math ledled Cymru.

 

 

 

Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru Cyf. yng Nghymru – Rhif Cofresrtu 4784488. Mae’r cwmni hefyd yn Elusen Cofrestredig Rhif 110603

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s