Pumed Wythnos Ymarferion

Gan Steffan Gwynn

Ein hwythnos olaf o ymarfer, ac mae hi wedi bod yn wythnos go wahanol i’r rheiny ddaeth gynt. Lle buom yn eistedd o amgylch bwrdd rai wythnosau yn ôl yn ceisio cyrraedd at bopeth oedd gan y sgript i’w gynnig, ry’n ni nawr yn eistedd mewn tywyllwch, â thraciau sain a golau’n cael eu gosod yn eu lle’n ofalus, a’r actorion prin yn symud o’r llwyfan.

Mae’r sioe’n araf ymdebygu i’r hyn y bydd hi ar lwyfan yr wythnos nesaf felly, pan agorwn yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Mae cael gweld y sioe i gyfeiliant trac sain, cerddoriaeth, a than oleuadau yn ei chodi at ryw lefel gwahanol, yn fwy aruthrol. Roedd cael clywed cerddoriaeth ddirdynnol Dan Lawrence yn enwedig yn dod â’r ddrama’n fyw mewn modd cwbwl gwahanol i mi. Mae un pwynt yn aros yn y cof, sef ar ddiwedd yr ail act pan fo’r trac ffidil ddyrys yn parhau â gwewyr Doctor Wangel hyd at ddechrau’r drydedd act. Ces i’n rhyfeddu ganddo.

Does dim llawer ar ôl i’w ddweud yn fy mlog olaf – neu, yn hytrach, mae yna ormod i’w ddweud, ac alla’ i ddim a meddwl sut y baswn i’n dechrau rhoi trefn arno oll. Un peth sy’n teimlo’n addas i’w ddweud, yn yr wythnos pan fo Eastenders yn darlledu’n fyw pob nos, yw er gwaetha’r syniadau mawr sy’n cael eu trafod yn y ddrama, mae ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ yn sioe afaelgar iawn ar lefel ddynol. Mae hi fel opera sebon â blas Scandinafaidd iddi, ond â digon i feddwl amdano wedi’i daflu i’w chanol hi hefyd.

Un awgrym i orffen felly: yn hytrach na gwrando allan am guriad agoriadol Eastenders dros yr wythnosau nesaf, chwiliwch am donau ffidil hiraethus ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’, a dod i brofi adloniant cwbwl byw, mewn byd yr un mor ddirgel a dramatig ag Albert Square ei hunan.

Advertisements

Pedwaredd Wythnos Ymarfer

Gan Steffan Gwynn

Fel yr haul wrth droed ffiordydd Norwy, galw mewn yn achlysurol ar yr ystafell ymarfer dwi wedi bod yn gwneud yr wythnos yma.

Sydd yn drueni, achos yr wythnos yma daeth y set yn gyflawn i Gaerfyrddin. Yn fynyddoedd serth ac yn fframwaith welw sy’n llwyddo arddangos y tu fewn a’r tu allan, mae’r set yn ofod o fewn gofod sy’n benthyg ei hun at bob math o ddehongliadau gwahanol. Trueni felly na chefais mwy o gyfle i wylio’r actorion wrth eu gwaith yn ei chanol hi yr wythnos yma, â hwythau’n tynnu’n nes at ddiwedd y ddrama. Ond mae wastad wythnos nesaf, pan fyddwn yn rhedeg y sioe ar ei hyd cyn dechrau ar yr ymarferion technegol.

Y rheswm nad ydw i wedi bod yn yr ystafell ymarfer trwy gydol yr wythnos hon yw bod sgript y ddrama – heddiw – yn mynd i’r wasg. Wedi cysoni’r newidiadau i’r sgript a wnaethpwyd tra’n ei hymarfer gyda chopi diweddaraf Menna Elfyn, dwi wedi bod yn paratoi’r sgript ar gyfer ei drafft terfynol, a’r drafft bydd yn ymddangos o weisg Gomer ddiwedd y mis.

Dwi hefyd wedi bod yn cysylltu gyda’r corau cymunedol yr wythnos hon, y cantorion fydd yn ymuno gyda ni ymhob canolfan ledled Cymru ar ein taith. Ddechrau’r wythnos, fe recordiwyd y gân werin Norwyaidd ‘Naar Fjordene Blaaner’ ar gyfer ei defnyddio yn ystod ein hymarferion technegol, a bydd cyfle i’w chlywed yn fyw o enau’r corau yn ystod ein sioeau dros y ddeufis nesaf.

Mae ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ yn esblygu’n gyflym i fod yn wledd i’r synhwyrau felly, yn rhoi llwyfan i set gelfydd, i gerddoriaeth werin o Sgandinafia, ac actio arbennig (wrth gwrs!). Ymlaen at yr wythnos nesaf, pan gawn weld y sioe ar ei hyd am y tro cyntaf. Cyffrous.

Lleoliad gwaith Dyfan Llyr

Fy enw i yw Dyfan Llyr Rhys ac rwy’n gweithio i Theatr Genedlaethol Cymru fel Rheolwr Technegol.

O ganlyniad i grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ystod mis Hydref cefais y cyfle i dreulio 4 wythnos yn adran gynhyrchu English Touring Opera.

Pwrpas y grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw i mi barhau i ddysgu a datblygu fy sgiliau o fewn y diwydiant trwy weithio gyda chwmnïau gwahanol yn y diwydiant.

Mae English Touring Opera yn un o gwmnïau opera mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig, sydd yn teithio i fwy o ranbarthau a lleoliadau nag unrhyw gwmni opera arall yn Lloegr. Pob blwyddyn mae’n teithio i tua 55 o leoliadau gwahanol ac yn cyflwyno cynifer â 110 o berffomiadau bob blwyddyn.

Bu’n brofiad arbennig i gydweithio gyda ETO a bydd modd i mi drosglwyddo yr hyn wnes i ddysgu, yn enwedig am drosglwyddo setiau mawr o theatr o theatr, o fudd i mi tra’n Reolwr Cynhyrchu ar gynhyrchiad nesa Theatr Gen sef ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Mor’ sydd a set werth ei weld!

 

Lleoliad gwaith Dyfan 2014llun d

Trydydd Wythnos Ymarferion

Gan Steffan Gwynn

Rhy’n ni’n tynnu at ddiwedd ein trydedd wythnos. Gyda thair wythnos arall i fynd tan i ni agor yn Aberdaugleddau, mae hi’n teimlo’n wythnos o bwys yma. Serch hynny, rhag colli golwg ar le y’n ni nawr, mae hi’n bwysig i beidio ag edrych yn rhy bell ymlaen. Fu hi’n wythnos brysur yma.

Mae ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ fel drama yn llawn o ryw eiliadau tyngedfennol, ac ymysg y pwysicaf yw’r eiliad pan mae Elida, ein prif gymeriad, yn esbonio ei gwewyr meddwl i’w gŵr. Yn un o’m hoff rannau o’r sgript, cawn glywed am yr angerdd a’r arswyd y mae’r môr yn deffro oddi mewn iddi – ei ‘stormydd a’i gostegion’. Y rhestr hir o anifeiliaid y môr, dwi’n meddwl, yw’r peth pennaf sy’n fy nenu at y rhan yma o’r sgript: boed yn forfilod neu’n fulfrain, mae’r modd y mae Elida’n ymgolli yn eu henwi yn dod â’i pherthynas â’r môr yn fyw i mi. Roedd hi’n braf gweld hynny’n digwydd ar lwyfan yr wythnos hon.

Ond gwnaethpwyd cymaint o waith oddi ar y llwyfan ag arno yn ystod y dyddiau diwethaf hefyd, wrth i ni recordio talfyriad Saesneg o’r sgript ar gyfer platfform gyfieithu newydd Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Sibrwd’. Seiriol Tomos, sy’n chwarae rhan yr artist Ballestad, yw llais ‘Sibrwd’ y tro hwn, ac addas iawn yw ‘sibrwd’ fel gair i ddisgrifio’r llais cynnes, tawel a fydd yn tywys y gynulleidfa ddi-gymraeg trwy holl hynt a helynt y ddrama. Wedi’i dreialu yng Ngŵyl Theatr Leiafrifol Bautzen yn Yr Almaen fis Hydref diwethaf, dyma fydd y tro cyntaf i Sibrwd gael ei ddefnyddio yng Nghrymu. Bydd mynediad i bawb felly yn y cynhyrchiad hwn.

Gan i mi ddechrau gyda’r rhif tri, mae hi’n addas hefyd i mi orffen gydag e, a dweud wrthym ni ddechrau gweithio ar y drydedd act ddoe, gan fwriadu cyrraedd ei diwedd hi erbyn diwedd y dydd heddiw. Dyma’r act lle down wyneb yn wyneb â’r Dieithryn am y tro cyntaf, dyweddi Elida sy’n dychwelyd o’i gorffennol ac o farw i fyw – neu felly mae’n ymddangos – wedi degawd hir o deithio ar longau o un pen y byd i’r llall. Daw yn ôl i bresennol ein sioe, yn dod â holl hud a hunllef y môr gydag e, ac yn ymgorffori holl bryderon creiddiol Elida ynghylch rhyddid, dyletswydd, a’r hawl i ddewis drosti hi ei hunan.

Eiliad dyngedfennol arall. Yn ôl at yr ystafell ymarfer nawr felly i’w gweld hithau’n dod yn fyw ar lwyfan.

Dod i adnabod tîm creadigol Y Fenyw Ddaeth o’r Môr

Ceri James yw Cynllunydd Goleuo Y Fenyw Ddaeth o’r Môr.

Mae Ceri wedi goleuo dros 150 o gynyrchiadau ac wedi teithio i weithio yn yr Almaen a’r Amerig.Fe oedd yn gyfrifol am oleuo Blodeuwedd i ni y llynedd ac yn ddiweddar bu’n goleuo pantomeim Nadolig Theatr y Torch sef Cinderella .Er iddo oleuo sawl testun clasurol dyma’r tro cynta iddo weithio ar ddrama gan Ibsen .Bydd yn defnyddio tipyn o gel L366 Cornflower blue i oleuo Y Fenyw er mewn creu teimlad o scandi noir. Erbyn hyn mae Ceri a’r teulu wedi symud i fyw nepell o HQ Theatr Gen sef yn Llanarthne ac mae’n giamstar ar golli allweddi!

dyma gip olwg o rhai o’i waith

Blodeuwedd/Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru/Coleg y Drindodceri james

_DSC5883

llun cer j 2

llynia ceri j

Wythnos Cyntaf Ymarferion

Gan Steffan Gwynn

Wedi misoedd o baratoi tuag at y ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ – yn sgriptio, yn trafod cynllun set a gwisgoedd, yn pennu ar gerddoriaeth a chynllun sain – roedd hi’n brofiad rhyfedd i groesawu cast y sioe i’r ystafell ymarfer yr wythnos hon a’u gweld yn dechrau rhoi cnawd ar yr holl gynllunio.

A rhoi dechrau arni yw’r wythnos hon wedi bod: yn cyflwyno gwedd newydd ar ambell i gymeriad, a gwneud rhyw ymdrech gychwynol i archwilio’u hamcanion a’u hemosiynau o fewn y ddrama.

Cawsom argraff hefyd o’r set. Ar ôl deuddydd o weithio gyda Dewi Rhys Williams a Heledd Gwynn (Dr Wangel a’i wraig, Elida – y fenyw ddaeth o’r môr), daeth y cast cyflawm atom ddoe, a daeth Ruth Hall – un o gyd-gynllunwyr y cynhyrchiad – atom i sgwrsio am ddyluniad y sioe.

Yr oll alla’ i ddweud yw bod y set a chynllun y gwisgoedd wedi llwyddo cipio naws y ffiordydd a’r arfordir ar ddiwedd haf a’i drosglwyddo’n gelfydd i’r llwyfan. Maent yr un mor hudolus, ac rwy’n edrych ymlaen i gael dechrau ymarfer ar y set hwnnw ymhen rhyw bythefnos.

Ond am nawr, yn ôl i’r ystafell ymarfer yw hi, i ni gael mynd ati fel criw cyflawn i dynnu’r sgript yn ddarnau, a gweld pa bethau sy’n llechu y tu ôl i’r geiriau.

Sibrwd, y ffrind Poced ar Daith

Wrth i Theatr Genedlaethol Cymru fynd â’r ddrama newydd ‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ gan Henrik Ibsen ar daith fis Chwefror a Mawrth yma, bydd ap newydd y Theatr yn golygu bod modd i’r rheiny sydd yn dysgu Cymraeg ddeall yn well beth yw stori’r ddrama.

Mae’r ap, a elwir yn Sibrwd, yn caniatáu i bobl nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg i fedru mwynhau y theatr Gymraeg, a hynny drwy ddefnyddio clustffonau a ffôn symudol.

Yn ôl Carys Ifan, Uwch Gynhyrchydd Theatr Genedlaethol, mae’r ap yn fynediad i berfformiad, beth bynnag fo’r iaith.

‘ Hyd yma mae uwchdeitlau a chardiau crynodeb wedi cael eu defnyddio gennym ond mae anfanteision i’r naill a’r llall. Er enghraifft, mae uwchdeitlau yn golygu darllen a cholli’r digwydd sydd ar y llwyfan ac ambell dro yn  tarfu ar brofiad y rhai sydd yn medru Cymraeg ac mae cardiau crynodeb yn gallu sbwylio’r plot.

‘ Mae Sibrwd yn rhywbeth gwbl newydd. Mae’n cynnig cyfle i glywed a darllen ynodeb  Saesneg o’r hyn sydd yn digwydd yn y ddeialog Gymraeg drwy ‘ap’ ar ffôn symudol,, a., Gall aelodau’r gynulleidfa lawrlwytho’r ap i’w ffôn yn rhad ac am ddim a chael llais yn sibrwd esboniad o’r plot iddynt bob hyn a hyn. ,’ esboniodd Carys yn frwd.

Datblygwyd y dechnoleg dros gyfnod o fisoedd ar y cyd â’r partner technegol Galactig gyda chymorth gan y Gronfa Ymchwil a Datblygu Digidol i’r Celfyddydau yng Nghymru – Nesta, Cyngor Celfyddydau a’r Dyniaethau a chyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Treualwyd yr ap yn wreiddiol fis Mai y llynedd yn ystod taith ‘Y Negesydd’ ac roedd yr ap yn hynod boblogaidd gyda nifer yn dweud bod Sibrwd ‘fel ffrind poced newydd.’Cafwyd mwy o adborth cadarnhaol yn ystod y  cynhyrchiad o Dyled Eileen yn yr Eisteddfod Genedlaethol . a hefyd yn yr Almaen ble roedd modd clywed y talfyriad o Pridd mewn Saesneg, Almaeneg a Sorbeg.

Mi fydd Sibrwd ar gael i gydfynd gyda holl gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod 2015.

Nodiadau ychwanegol:

  • Mae modd lawrlwytho Sibrwd yn rhad ac am ddim i’r i-ffôn a ffôn Android
  • Bydd tîm o gynorthwy-wyr digidol ar gael ym mhob lleoliad ar y daith i gynorthwyo pobl i ddefnyddio Sibrwd
  • Mae’n bosibl i chi fenthyg ipod os nad oes gennych ffôn smart ond bydd angen cofrestru gyda swyddfa docynnau’r ganolfan.
  • Er mwyn datblygu Sibrwd mae eich adborth yn hynod bwysig