Adolygiad da #DyledEileen gan @mwnai (Rachel o @Young_Critics)…
Mae enw Eileen Beasley, heb os, yn un adnabyddus ymysg y Cymry Cymraeg, a hynny, yn bennaf, oherwydd ei hymdrech i sicrhau bil treth ddwyieithog yn ystod 50au’r ganrif ddiwethaf yn ardal Llanelli. Aberth o bwys mawr yn hanes brwydr yr iaith oedd ei phenderfyniad i wrthod talu’r arian dyledus tan i’r ffurflen gael ei chyfieithu, a hanes ei brwydr hir a llafurus sydd dan sylw yng nghynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Dyled Eileen.
Tri phrif gymeriad a geir ynddi a heb os, rhaid canmol perfformiad egnïol bob un ohonynt, yn ogystal â rhyngweithio’r tri â’i gilydd trwy gydol y ddrama. Rhian Morgan sy’n chwarae rhan yr Eileen oedrannus sy’n edrych yn ôl ar ei bywyd, weithiau’n crwydro’n mud o amgylch y set ac adegau eraill yn cyfarch y gynulleidfa neu yn sgwrsio â’i ffurf iau a chwaraeir gan Caryl Morgan, a Ceri Murphy sy’n chwarae rhan y Trefor ifainc…
View original post 536 yn rhagor o eiriau