Adolygiad Dyled Eileen gan Lowri Haf Cooke… diolch Lowri!
@lowrihafcooke / #dyledeileen

Lowri Haf Cooke

Dyled Eileen

Katharine Hepburn a Spencer Tracy, Richard Burton ac Elizabeth Taylor, Humphrey Bogart a Lauren Bacall; tair rhamant fawr o’r Ugeinfed Ganrif a hudodd gynulleidfaoedd di-ri.

Feddyliais i ddim, wrth deithio i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe, y profwn i ramant fawr i gystadlu ag un o’r rhain, ond diolch i gynhyrchiad diweddara y Theatr Genedlaethol, gallwn ychwanegu enwau Trefor ac Eileen Beasley i’r restr fawreddog honno.

Yn wir, rhaid cyfadde, gyda theitl fel Dyled Eileen, mai disgwyl gweld sioe-un-ddynes a wnes dan ofal fy hoff actores Gymraeg

A minnau wedi mwynhau perfformiadau unigol diweddar Helen Griffin yn Who’s Afraid of Rachel Roberts a phortread Richard Elfyn o David Lloyd George yn The Wizard, The Goat and The Man Who Won The War, edrychais ymlaen at wers hanes go werthfawr yng nghwmni Rhian Morgan.

Nid dyna a gafwyd- ddim yn union ta beth, er fod yr actores o Dreforys yn bresenoldeb cyson ar hyd y cynhyrchiad. Yn gwmni iddi hi ar lwyfan y mae…

View original post 726 yn rhagor o eiriau

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s